Llwyddiant Yr Ysgol
Gwobr Lleoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan
Cliciwch yma i ddarllen (Tudalen 5) |
Ysgolion Môn yn arwain ar y siwrnai iechyd a llesiant
Cliciwch yma i ddarllen (Tudalen 5) |
YR URDD
Da iawn bawb. Am fwy o luniau ewch i CDT Ynys Mon 2018
|
YR URDD
Da iawn bawb. am fwy o luniau ewch I Celf a Chrefft yr Urdd 2017 |
Ysgol Masnach Deg
|
Canolfan Ragoriaeth ASDAN
|
Tystysgrif BREEAMMae Canolfan Addysg y Bont wedi derbyn tystysgrif BREEAM ar gyfer y cod amgylchedd adeiladu cynaliadwy. Dyma’r dystysgrif cyntaf i Cyngor Sir Ynys Môn. Cliciwch yma i weld y tystysgrif |
Buddsoddwyr Mewn Pobl
|
Gwobrau a Chymeradwyaeth Genedlaethol
Mae’r ysgol wedi derbyn cymeradwyaeth gan nifer o asiantaethau am ei gwaith da. Mae’n ganolfan achrededig y Cyd Bwyllgor Addysg Gymru i’w chaniatáu i gynnal arholiadau Lefel Mynediad ac i gyflwyno’r Cofnod Cyrhaeddiad Cenedlaethol. Mae’n ganolfan Asesu Achrededig ar gyfer Cynllun Ieuenctid A.S.D.A.N. a hefyd Gwobr Dug Caeredin. Mae’r ysgol bellach (2013) wedi’i dynodi yn ganolfan achrededig Agored Cymru.
Mae’r ysgol yn aelod llawn o’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistig ac mae y mwyafrif o’r staff wedi derbyn hyfforddiant ganddynt.
Yn ystod 2009 enillodd yr ysgol Wobr Buddsoddwr Mewn Pobl am y trydydd tro a fe ddangoswyd ei bod yn parhau i ymgyrraedd at y nod o sicrhau ei bod yn ymrwymo i ddatblygiadproffesiynol yr holl staff. Yn 2014 derbyniodd yr ysgol Wobr Cydnabod Ansawdd Gyrfa Cymru ac fe enillwyd gwobr newydd Nôd Ansawdd Sgiliau Sylfaenol yn 2009. Yn 2012 fe gafodd yr Ysgol y wobr Efydd Buddsoddwyr Mewn Pobl am y tro cyntaf.


Gwobrau a Chymeradwyaeth Eraill
• Marc Gyrfa Cymru: Gwella Ansawdd yn barhaus (2014)
• Ysgol Iach: Cam 6 (2018) - cliciwch yma
• Tystysgrif Continyou Cymru: Safonau Rhyngwladol i Ysgolion Bro
• Masnach Deg : (2014)
Mae gan yr ysgol gyswllt gryf gyda’r Rhaglen Ewropeaidd ‘Comenius’
ynghyd â’r 25 gwledydd cysylltiedig.
Buddsoddwyr Mewn Pobl (Nod Ansawdd: Efydd 2012)
Yn 2011 ac eto yn 2013 mae’r ysgol wedi derbyn cymeradwyaeth gau y Cyngor Brydeinig am ei gwaith byd eang mewn addysg.

Mae Canolfan addysg y Bont wedi eu cyflwyno â dyfarniad Gwobr Lleoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan.
Dyma erthygl o Gylchlythyr Cyngor Sir Ynys Môn yn nodi llwyddiant yr ysgol gyda Ysgolion Iach
Llongyfarchiadau mawr i'r holl ddisgyblion sydd wedi gweithio'n galed i greu gwaith celf a chrefft ar gyfer Eisteddfod yr Urdd eleni. Yn y gystadleuaeth CDT Ynys Mon 2018 cafwyd 20 - 1af, 11 - 2ail a 5 - 3ydd.
Llongyfarchiadau I holl ddisgyblion yr ysgol ddaeth yn llwyddiannus yng nghystadleuadeth Celf a Chrefft yr Urdd eleni.
Mae Canolfan Addysg y Bont wedi cael ei chydnabod gyda Thystysgrif ASDAN fel Canolfan Ragoriaeth, i gydnabod arfer rhagorol wrth redeg cyrsiau ASDAN yn yr Uwchradd yn ystod 2015-16. Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn gysylltiedig.
Mae Canolfan Addysg Y Bont yn falch iawn o fod wedi ennill safon arian Buddsoddwr Mewn Pobl yn ddiweddar, yn dilyn asesiad allanol. Mae'n braf iawn i gael arbenigedd allanol i gadarnhau fel sefydliad, fod cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a gwerthoedd craidd yn cael eu rhannu. Rhaid i ni gofio bob amser mai ein staff yw adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym.