English

Cwricwlwm

Llawrlwytho Llyfryn Ein Cwricwlwm


Trosolwg ein Cwricwlwm

Fframwaith Asesu B Squared

Mae fframwaith asesu B Squared, yn sicrhau ein bod yn rhoi sylw i’r llwyddiannau a’r camau bychan o gynnydd y bydd ein disgyblion yn llwyddo ynddynt yn ystod eu taith addysgol a gwneir hynny gan ddefnyddio Lefelau P ag lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd y camau bychain o gynnydd yma yn cael eu diweddaru yn gyson gan staff yr ysgol er mwyn cofnodi llwyddiannau'r disgyblion, gan wneud yr asesiad yn un parhaus trwy gydol y flwyddyn. Mae'r asesiad yma yn galluogi’r staff adnabod, cynllunio ac ymglymu’r disgyblion yn eu dysgu fel eu bod yn ymwybodol o’u taith. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth mwy manwl gyda’r rhieni/ gwarchodwyr ynglŷn â chynnydd mwyaf diweddar yn ogystal â llwyddiannau’r plentyn. Rydym yn defnyddio B Squared o fewn y pynciau canlynol: Llythrennedd, Rhifedd, Gwyddoniaeth, Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Thechnoleg Gwybodaeth. Mae pob pwnc wedi ei dorri lawr i gydrannau pellach ac mae’r manylder yma yn caniatáu addysg unigol i bob disgybl. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.bsquared.co.uk