English

Newyddion


Gwyl Cefni

Gwyl Cefni Da iawn pawb am berfformio yn Gwyl Cefni eto eleni - job penigamp gan bob un


Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Cafwyd nifer o weithgareddau er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.


Canine Assisted Learning

Diolch i Parker o CAL am ddod i’n gweld ni! Roedd o’n edrych yn smart iawn yn ei gôt gwaith!


Bowlio Deg!

Mi gafodd Canol 2 ddiwrnod gwych ddoe yn bowlio deg yn Dragon Bowl RAF Y Fali - Diolch Mr Clarke am alluogi ni fynd.


Dathlu’r Flwyddyn Newydd Tseiniaidd.

Diolch i Brifysgol Bangor am ddod i'r ysgol i gynnal gweithgareddau i ddathlu’r flwyddyn newydd Tseiniaidd.


Hwyl yn y Parc!

Mae Cynradd 2 wedi mwynhau cael ymweld a’r parc tymor yma.


Gymnasteg

Mae Cynradd 1 wrth eu bodd cael mynd i redeg a neidio i Glwb Gymnasteg Ynys Mon yng Nghaergybi.


Cystadlaeuaeth Gymnasteg

Cynhaliwyd cystadleuaeth gymnasteg a redir gan Gymnasteg Cymru mewn partneriaeth â'r Rotari a Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhlas Arthur. Cafwyd llwyddiant ac aeth criw o ddisgyblion i Bala i gystadlu ymhellach. Roedd pawb wedi mwynhau a phawb wedi derbyn ruban neu fedal, da iawn i pawb!

  • Disgyblion yn gwneud cystadlaeuaeth gymnasteg
  • Disgyblion yn gwneud cystadlaeuaeth gymnasteg
  • Disgyblion wedi enill gwobr

Clever Cubs Club

Roedd neuadd yr ysgol yn llawn bwrlwm yn ddiweddar, daeth ymwelydd draw i'r ysgol gyda llond trol o offer sensori ac i gynnal gweithdai streon sensori – roedd pawb wedi mwynhau yn fawr.

  • Clever cubs Clu

Maint Cymru.

Diolch i Alison Mure o Maint Cymru am ymweld â ni. Roedd Canol 2 a Ceint 2 wedi mwynhau dysgu am wrangutangs a’r fforestydd glaw, gyda Cynradd 3b, Cynradd 5, Canol 1 a Ceint 4 yn dysgu am yr eliffantod sy’n byw yn y fforestydd glaw.

  • Maint Cymru a disgyblion yn gal hwyl

Gwersi offerynnol.

Mae nifer o ddisgyblion yn yr ysgol wedi cael blas ar chwarae offerynnau cerdd – gitar, piano a dryms!


Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi –Amlwch

Disgyblion a staff Cynradd 5 wedi mwynhau cael cerdded yn yr orymdaith yn Amlwch a chael hwyl yn canu a dawnsio hefo Mr T a Catrin.

  • St davids parade

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi –Llangefni

Criw o’r ysgol wedi mwynhau perfformio Samba fel rhan o’r orymdaith yn Llangefni a chael hwyl a sbrio yn dawnsio a chanu efo Tesni Huws.

  • St davids parade llangefni

Bocsys Adar

Diolch I Dylan a Will o AONB am ymweld â Ceint 4 i ddangos sut mae creu bocs adar.


Dydd Gwener Gwych!

Eto tymor yma rydym wedi parhau i gael llond lle o hwyl ar Ddydd Gwener megis diwrnod trwyn coch, dathlu diwrnod y llyfr a gwylio ffilm a chael popcorn blasus!


Wyau Pasg

Diolch o galon am y rhodd o wyau pasg I’r disgyblion gan Andy Hughes, Eddie Howarth, Keith Williams a Phil Murphy o Clwb Motorbeics Ynys Mon.

  • Disgyblion gyda wyau pasg

 

Plant Mewn Angen

Cawsom ddiwrnod gwych a chodwyd £103.40 trwy wisgo dillad eu hunain neu wisg ffansi. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth

Fideo dod yn fuan...

Gwyl Cymru Festival

Bu nifer o ddisgyblion Uwchradd drawm ym Mhlas Arthur am fore o weithgareddau Pêl-droed Cwpan y Byd a gynhelir gan Môn Actif fel rhan o Gwyl Cymru Festival. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr.


Pabi Coch – Ceint 3

Mae disgyblion Ceint 3 qwsi bod yn brysur yn creu bathodynnau pabi er mwyn nodi Sul y Cofio. Mae’r disgyblion wedi bod yn gwerthu’r bathodynnau yn Cain , sef siop lleol ac wedi rhoi cyfraniad tuag at y Lleng Brenhinol Prydeinig.

dau Pabi Coch


Cardiau Nadolig Canol 2

Mae criw Canol 2 wedi bod yn brysur yn creu cardiau Nadolig i’w gwerthu yn nerbynfa yr ysgol. Diolch hefyd i siop Cain a Ser Bach, Llangefni am werthu cardiau ar ein rhan.

Cardiau Nadolig plant y Ysgol


Gwasaneth Nadolig Cynhwysol

Bu Cynradd 5, Cynradd 3B a Canol 1 ar drip i Gadeirlan Bangor i fynychu Gwasanaeth Nadolig cynhwysol. Da iawn pawb am ganu’n wych!


Llongyfarchiadau mawr i Brandon Thorman

Llongyfarchiadau mawr i Brandon Thorman am ddod yn 2ail gyda gwaith 3D yn Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Brandon Thorman who came 2nd with his 3D work in the Urdd Eisteddfod.

celf


Llongyfarchiadau mawr i Cynradd 1

Llongyfarchiadau mawr i Cynradd 1 am ddod yn 1af gyda gwaith 3D yn Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Cynradd 1 who came 1st with their creative 3D work in the Urdd Eisteddfod.

celf


Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 3a

Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 3a am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Cynradd 3a who came 2nd with their 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.

celf


Llongyfarchiadau i Dosbarth Ceint 2

Llongyfarchiadau i Dosbarth Ceint 2 am ddod yn 1af gyda gwaith creadigol 2D yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Ceint 2 who came 1st with their creative 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.

celf


Llongyfarchiadau i Dosbarth Canol 2

Llongyfarchiadau i Dosbarth Canol 2 am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Canol 2 who came 2nd with their 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.

celf


Llongyfarchiadau i Levi Taylor

Llongyfarchiadau i Levi Taylor am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Levi Taylor who came 2nd with his 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.

celf


Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 5

Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 5 am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych gyda gwaith 3D. Congratulations to Cynradd 5 who came 2nd with their 3D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.

celf celf

Cenin Pedr /Dewi Sant.

Mae Ceint 3 wedi bod yn brysur yn creu bathodynau clai i ddathlu Dydd Gwyl Dewi fel rhan o’u gwaith Agored Cymru, mae’n bosib prynnu rhai yn yr ysgol neu siop Cain yn Llangefni

celf

Gymnasteg

Mae dosbarth Cynradd 4 yn mwynhau ymweld a gampfa gymnasteg yng Nghaergybi yn wythnosol-mae’r plant wrth eu bod yno!

 

Hei Sion Corn

Mae plant a staff Canolfan Addysg y Bont wedi bod yn brysur dros y Nadolig yn cyfansoddi a recordio sengl newydd. Ysgrifennodd Mr Gethin Thomas y gan ‘Hei sion Corn’ ar gyfer y disgyblion. Hefyd, dyluniodd y disgyblion y clawr, mae’r clawr buddugol wedi ei ddylunio gan Kian Smith ac mae’n ymddangos ar itunes a Spotify. Roeddynt yn lwcus iawn i gael y cyflwynydd radio ac actores Catrin Angharad i ganu’r gan gyda’r disgyblion. Aeth y staff a’r plant ati i greu fidio ar gyfer y gan a cafod ei gwylio ar Fabebook dros 2,000 o weithiau!


Casglu sbwriel

Mae Ceint 4 wedi bod yn brysur iawn yn edrych ar ol yr amgylchedd drwy gasglu sbwriel yn wythnosol – Da iawn chi!


Celf

Mae dosbarth Ceint 3 wedi bod yn astudio gwaith yr arlunydd Cefyn Burgess, ac wedi creu arddangosfa o'u gwaith gorffenedig. Buom yn gweithio'n ddygyn iawn gyda Miss Fretwell yr athrawes gelf, Islwyn a Chloe. Mae'r arddangosfa yn edrych yn wych.

celf

Bws Mini newydd

Bws Mini newyddGwynebau hapus rhai o ddisgyblion Canolfan Addysg Y Bont gyda’r Bws Mini newydd gan yr elusen ‘Happy Faces’. Diolch iddynt ag i’r holl rienni sydd wedi cyfrannu i’r achos.


Dosbarth Canol 2

Mae dosbarth Canol 2 wedi bod yn brysur iawn yn dygsu y geiriau ac arwyddion Makaton i'r gerdd Dawns y Dail gan T.Llew Jones
Fideo dod yn fuan...


Dosbarth Ceint 4

Y tymor yma mae disgyblion Ceint 4 wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau profiad gwaith. Maent wedi mwynhau papur ailgylchu ac wedi gwneud briciau tanwydd i'w gwerthu yn y dyfodol. Maent hefyd wedi bod yn gweithio'n galed yn ardal Garddwriaeth. Gwaith gwych Ceint 4.

pupils
pupils
pupils

Dosbarth Ceint 3

Ers dychwelyd ym mis Medi, fel dosbarth rydym wedi dechrau ar y broses ar ddefnyddio Google Classrooms yn y dosbarth i gwblhau gwaith. Rydym wrth ein boddau!

09.10.20 - Mexico

  • 261020-america

 


30.09.20 - America

  • 261020-america

24.09.20 - Dosbarth Carnedd 5

Mae Cynradd 5 wedi bod yn brysur iawn yr hanner tymor yma yn dilyn y thema Bwyd.

  • 261020-mexico

 

Penblwydd Hapus

GryffaloPenblwydd Hapus i Lywodraethwraig arbennig


dodrefn newydd y caffi

GryffaloDisgyblion yn mwynhau dodrefn newydd y caffi.

Plant Mewn Angen

Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu.

pupils pupils pupils pupils



Pêl-fasged

GryffaloCystadleuaeth Pêl-fasged Disgyblion CA3 yng Nghaernarfon – Pawb wedi mwynhau cymryd rhan


Mabolgampau

pupils
pupils
pupils



cogionio

Disgyblion Cynradd 5 yn mwynhau cogionio.

pupils
pupils
pupils



pupilspupilsymgyrch codi arian i’r ysgol

Disgyblion Uwchradd yn mwynhau’r ‘trikes’ newydd yn dilyn ymgyrch codi arian i’r ysgol.

Eisteddfod!

Cafwydd Eisteddfod hynod Lwyddianus yn Nghanofan Addysg y Bont Eleni. Cafwyd cystalaethau canu, adrodd, ac offerynol yn ystod y dydd. Roedd hi’n bnawn llawn hwyl a sbri. Mi oedd yr Ysgol yn hynod lwcus I gael dau Lywodraethwr fel beirniaid – Mr Peter Davies a Mrs Donna Calveley. Da iawn pawb!


Gymnasteg

Cynhaliwyd cystadleuaeth gymnasteg a redir gan Gymnasteg Cymru mewn partneriaeth â'r Rotari a Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhlas Arthur. Cafwyd llwyddiant ac aeth llond bus o ddisgyblion i Bala i gystadlu ymhellach. Roedd pawb wedi mwynhau a phawb wedi derbyn ruban neu fedal, da iawn pawb! Diolch mawr i Pete o K&P Coaches am yrru’r bws i Bala.


Dydd Gwyl Dewi

GryffaloRoedd pawb wedi gwneud ymdrech i wisgo coch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, a bu criw Canol yn chwarae yn y band Samba fel rhan o Bared Dydd Gwyl Dewi Llangefni.


Diwrnod Trwyn Coch

Bu’r ysgol yn brysur yn casglu arian i achos da, roedd stondin o gacennau blasus ar werth, disgyblion wedi gwisgo eu dillad eu hunain, a’r staff yn dyfalu ar gêm pwy yw’r babi. Diwrnod prysur iawn gyda phawb wedi mwynhau cyfrannu tuag at achos da.


Dathlu Diwrnod y Llyfr

GryffaloI ddathlu Diwrnod y Llyfr, roedd yr ysgol yn llawn dop o gymeriadau di-ri o lyfrau.


Pêl Droed

Bu criw o peldroedwyr CAYB draw yn Mharc Eirias Bae Colwyn i gymryd rhan mewn twrnament pêl droed. Sgoriwyd sawl gôl, peldroedwyr y dyfodol efallai?!


Helfa Wyau Pasg

Mae Cynradd 4 wedi mwynhau Helfa Wyau Pasg, yn chwilio am wyau siocled yn yr ardd sensori.

pupils pupils pupils



pupilspupilsChwedlau Cymru

Bu i ddosbarth Cynradd 5 ymddiddori mewn Chwedlau Cymru yn ystod y Tymor. Gwnaed gwaith yn y dosbarth ar chwedl Cantre’r Gwaelod, Branwen a Gelert y ci ffyddlon. Ar ôl yr holl waith caled doedd dim amdani ond neidio i’r bws mini er mwyn cael gweld y rhannau o Gymru y cyfeirir atynt yn y chwedlau. Bum yn ymweld a Chastell Harlech a Beddgelert.


Profiad Gwaith

GryffaloBu disgyblion Ceint 3 am ymweliad profiad gwaith yn ddiweddar i Ysbyty Gwynedd, Cyfle i gael cipolwg ar whananol fath o waith sydd ar gael yn yr ysbyty. Bu’r criw hefyd draw i siop y Range yn Fangor i gael blas ar brofiad gwaith.


Campau yn y Gampfa

GryffaloMae Ceint 2 wedi bod yn ymweld o Chanolfan Hamdden Caergybi yn wythnosol fel rhan o’u Gwaith Dug Caeredin ar ffitrwydd, mae pawb wedi bod yn gweithio yn galed a dysgu sut i ddefnyddio y gwahanol offer.


Pili Palas

GryffaloBu Ceint 3 draw yn Pili Palas, trip wedi ei drefnu gan Gorwel i ddiolch i’r criw am eu help yn yr ardd yn ystod y flwyddyn.


pupilspupilsDiwrnod Syndrom Down

Codi Ymwybyddiaeth i Ddiwrnod Syndrom Down


DIWRNOD AWTISTIAIETH CENEDLAETHOL

GryffaloStaff CAYB yn cefnogi diwrnod Awtistiaieth Cenedlaethol

 

pupilspupilsCegin Mwd

Diolch yn fawr iawn i Cymell, Caergybi am greu cegin mwd gwerth chweil i’r Cyfnod Sylfaen. Neis gweld hen wynebau cyn ddisgyblion, dyma lun o criw Cymell yn cyflwyno’r gegin.


IronmanSialens Ironman

Mis Medi cymrodd Mark Jones o Ynys Môn ran yn sialens ‘Ironman’ yn Ninbych y Pysgod. Ei fwriad oedd casglu arian ar gyfer yr ysgol, gyda’r arian yn cyfrannu tuag at offer arbenigol i gefnogi anghenion y disgyblion.

Roedd yn dipyn o her i Mark, gan fod yn sialens yn cynnwys nofio 2.4 milltir yn y môr, beicio 112 milltir ac yna gorffen drwy redeg marathon.

Hoffem ddangos ein gwerthfawrogiad anferthol i Mark am y cyfraniad hael o £2,075.


pupilsY Welsh Guards

Cafodd dosbarth Ceint 2 a Canol ymweliad gan y Welsh Guards yn yr ysgol y mis yma. Roedd yn ddifyr iawn gwrando arnynt yn siarad am ei gwaith a chyfrifoldeb eu swyddi amrywiol. Mwynhaodd y disgyblion gael trio’r gwisgoedd ymlaen a chael cyfle i ddysgu sut i orymdeithio. Bu i'r ymwelwyr fwynhau cwmni'r disgyblion yn ogystal, ac wedi gofyn i ddod yn ôl.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Ansawdd Ysgolion Iach

Darllenwch am lwyddiant ein disgyblion yn derbyn 'Dyfarniad Ansawdd Ysgolion Iach Cenedlaethol' ar dudalen 5 - cliciwch yma


pobl a phlantYsgolion Môn yn arwain ar y siwrnai iechyd a llesiant

Dyma erthygl o Gylchlythyr Cyngor Sir Ynys Môn yn nodi llwyddiant yr ysgol gyda Ysgolion Iach

Cliciwch yma i ddarllen (Tudalen 5)

 

pobl a phlantAnya Hoban, Brenhines Elusen Caergybi 2017

Mae Brenhines Elusen, Caergybi 2017 wedi codi £1150.00 i Ganolfan Addysg y Bont.
Yn ystod y f lwyddyn, cododd Anya Hoban arian trwy wahanol ddigwyddiadau. Cymerodd ran mewn pacio bagiau, trefnu rafflau yn ogystal â mynychu noson codi arian dawnsio llinell a drefnwyd gan y grwp dros 50 yng Nghaergybi Bu Anya hefyd yn helpu i drefnu noson yng Nghlwb Hotspurs Caergybi lle perfformiodd Dixie Rebel yn rhad ac am ddim. Roedd pawb yn mwynhau'r noson! Bu Anya hefyd yn helpu i drefnu cystadleuaeth elusen 'Queens' yn Canolfan Gymunedol Kingsland.

Bydd yr arian o fudd mawr i'r disgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont. Diolch i chi Anya am ei holl waith caled.


pobl a phlantWythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth

Disgyblion a staff yr ysgol yn gwisgo glas i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth.


pobl a phlantHysbysebu Nwyddau Garddio a Blodau

Mae disgyblion dosbarth Canol wedi bod yn brysur yn creu poster i hysbysebu nwyddau garddio a blodau yn Asda Llangefni. Bydd y gwaith i fyny drost yr haf, mae'n edrych yn wych, ewch yn llu i'w weld. Diolch yn fawr i Asda am y cyfle i ddangos doniau ein disgyblion.


pobl a phlant Cerddorfa Genedlaethol y BBC

Fel rhan o waith y disgyblion uwchradd ar gerddoriaeth clasurol cafwyd ail ymweliad gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC. Cafodd y plant ddiwrnod prysur o berfformio, cyfansoddi a gwerthuso yng nhwmni yr offerynnwyr talentog o'r BBC. Perfformiodd y disgyblion ddau o'u cyfansoddiadau ar ddiwedd y dydd i weddill yr ysgol.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


pobl a phlant Wyau Pasg

Diolch yn fawr i Glwb Motorbeic Môn am gyfrannu wyau pasg i holl ddisgyblion yr ysgol eto eleni.


3 oedolyn ac 1 disgyblCyfraniad

Dymuna'r ysgol ddiolch yn fawr iawn i Mrs Catherine Jones am y cyfraniad hael o £400, a diolch hefyd i deulu Ryan Robertson am ein henwebu.


cerddwyrGwaith Cerdd

Fel rhan o waith cerdd yr ysgol cafodd Dosbarth Ceint 2 ymweliad gan gerddorion Gerddorfa Genedlaethol y BBC. Roedd y plant wedi wir mwynhau cael trio offerynnau newydd a gwrando ar aelodau o'r gerddorfa yn cyd - chwarae.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


disgyblionEisteddfod Ysgol

Cafwyd diwrnod arbennig iawn yng Nghanolfan Addysg y Bont pan gynhaliwyd Eisteddfod yn yr ysgol. Treuliodd y plant a'r athrawon brynhawn difyr yn gwrando ar adrodd, cerddoriaeth, unawdau offerynnol ac ychydig o ddawnsio gwerin. Da iawn i dim Braint a gipiodd y gadair!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 

Fferm y FoelFferm y Foel

Fel rhan o’n thema anifeiliaid, bu Cynradd 5 a Canol yn ymweld â Fferm y Foel. Cafwyd cyfle i weld a bwydo'r anifeiliaid. Diolch Fferm y Foel am y croeso cynnes..


Parc SglefrioParc Sglefrio

Mae ein hysgol ni wedi cael y fraint o fod yn gyfrifol am greu gwaith celf ar waliau’r parc sglefrio newydd yn Llangefni. Byddem yn gweithio ar y cyd gyda disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni ar y cynllun cyffrous hwn.

Tra mae’r adeiladwyr ar waith, mae’r disgyblion wedi bod wrthi’n brysur yn meddwl a chynllunio syniadau. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn arw i gael cychwyn ar y gwaith gorffenedig.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Sioe Nadolig

Cawsom sioe Nadolig lwyddiannus iawn eto yn Nghanolfan Addysg Y Bont. Roedd perfformiad y disgyblion yn werth chweil, gyda dros 500 o bobl yn dod i wylio yn ystod y ddau berfformiad. Hefyd roedd ffair greffau liwgar yn llawr danteithion a chrefftau deniadol. Diolch i’r holl staff am eu gwaith caled ac i bawb am gefnogi.


Ysgol Arweiniol CreadigolYsgol Arweiniol Creadigol

Mae’r Ysgol Arweiniol Creadigol yn ol eto eleni. Ein ymarferwyr ni eleni ydi; actores Rhian Cadwaladr, Tom Cockbill o Wild Element a Owain Llyr o Gweledigaeth. Nod y prosiect eleni ydi creu siarter iaith unigryw i’r ysgol a chodi proffil yr iaith Gymraeg. Rydym wedi bod yn brysur mewn seisynnau actio, stori a chreu yn ardd. Gwyliwch allan am fwy o ddatblygiadau tymor nesaf.


Plant Mewn AngenPlant Mewn Angen

Bu criw Canol yn brysur eto eleni yn trefnu gweithgareddau ar gyfer codi arian at Plant Mewn Angen. Cawsom ddiwrnod gwych a chodwyd dros £400 drwy werthu cacennau, breichledau ac gwisgo dillad eu hunain neu wisg ffansi. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth eto eleni at achos da.


Criced

Bob bore Gwener yn ystod y Tymor roedd rhan o’r ysgol yn cael ei droi yn yr ‘Oval’, gyda disgyblion yn cael profiad a dysgu sut i chwarae criced. Diolch o galon i Sam o Criced Cymru am y sessiynnau ac am drefnu y twrnament ym Mhlas Arthur.


Venue CymruVenue Cymru

Bu Cynradd 3 a Ceint 1 yn hynod o lwcus o gael perfformio gyda Cerddorfa Genedlaethol y BBC. Perfformwyd darn gan DELIBES.


Teams 4 U – Bocsys Nadolig

Mae dosbarthiadau Cynradd Cynradd 3b, Cynradd 5 a Canol wedi bod yn brysur yn prynu nwyddau a pharatoi bocsys o anrhegion Nadolig i’w gyrru i blant bregus yn Romania. Casglwyd y bocsys gan Teams4U, sy’n cefnogi cymunedau ar draws y byd.


Yr Ysgwrn – Hedd WynYr Ysgwrn – Hedd Wyn

Fel rhan o’n gwaith thema, bu Cynradd 3B, Cynradd 5 a Canol i ymweld ar Ysgwrn yn Nrhawsfynnydd, cartref y bardd Hedd Wyn. Cafodd y disgyblion weld sut roedd pobl yn arfer byw oddi ar y tir. Hefyd cafwyd cwis, gan edrych allan am y cliwiau yn yr amgueddfa, cyn ymweld a’r gadair ddu.


Caban Hud – Pontio

Mae Mr T wedi bod yn brysur iawn yn cydweithio gyda Rhodri Sion fu’n gyfrifol am y sioe Caban Hud ym Mhontio. Bu Rhodri Sion draw i’r ysgol i gydweithio gyda rhai dosbarthiadau. Bu Cynradd 1 a Cynradd 5 yn lwcus iawn o gael mynd I Pontio I weld perfformiad o Caban Hud.


gwyl cefniCapsiwl amser

Bu i ddisgyblion Ceint 2 weithio ar brosiect creu capsiwl amser gyda Griffiths civil engineering and construction. Bu i'r disgyblion gasglu eitemau ac ysgrifennu straeon i'r capsiwl yna ei gladdu ar y safle ble mae'r lon newydd yn Llangefni.


gwyl cefniGlynllifon

Yn ystod y miseodd diwethaf, mae dosbarth Ceint 3 wedi bod yn ymweld a Pharc Glynllifon yn wythnosol. Mae’r criw wedi mwynhau profiadau eang yn amrywio o sesiynnau ‘Touch Trust’, plannu, crwydro o amgylch y parc i ddysgu am natur, yn ogystal a tripiau i’r traeth. Gwych oedd gweld y disgyblion yn mwyhau ac yn archwilio eu synhwyrau.


gwyl cefniRSPB

bu dosbarth Cynradd 4 a Cynradd 1b yn mwynhau ymweliad yng Ngwarchodfa Natur RSPB Conwy mis yma. Cawsant gyfle i grwydro’r llwybrau i chwilio am natur yn ogystal a phlannu hadau a darganfod trychfilod yn y pyllau dwr. Roeddynt wedi mwynhau yn fawr iawn. Llun o Rio yn plannu hadau.


gwyl cefniCelf a Chrefft

Yn dilyn y llwyddiant ysgubol yng nghystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd ar Ynys Mon, aeth gwaith y disgyblion ymlaen i’r Eisteddfod ym Men y Bont ar Ogwr. Yno cafwyd 7 – 1af, 3- 2ail a 2- 3ydd. Llongyfarchiadau enfawr i’r holl ddisgyblion. Talent amlwg ymysg ein haeoldau. Dyma lun o Danial a Sienna yn falch iawn o’u llwyddiant.


gwyl cefniGwyl Cefni 2017

Dewch yn llu i gefnogi Band Samba'r ysgol yng Ngwyl Cefni eleni.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


cerddYmweliad gan Dri Cerddor Proffesiyniol

Cafwyd ymweliad gan dri cerddor proffesiyniol yn ystod tymor y gwanwyn. roedd y disgyblion I gyd wedi mwynhau gwrando arnynt yn y gwasanaeth, hefyd cafodd rhai o'r disgyblion gydweithio gyda'r gantores Opera, clarinet a Pianydd o Gaerdydd yn y gwersi cerdd.


celf a chrefftCelf a chrefft yr Urdd

Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion yr ysgol ddaeth yn llwyddiannus yn nghystadleuaeth celf a chrefft yr Urdd eleni. Yn yr Eistddfod cylch derbynodd yr ysgol 19 - 1af, 10 - ail, a 6 - 3ydd. Pob lwc i’r disgyblion yn y rownd derfynnol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn ogystal derbynodd yr ysgol darian am yr ysgol oedd wedi derbyn y niferoedd mwyaf o bwyntiau yn y gystadlaeaeth - llongyfarchiadau enfawr i bawb.


comic reliefComic Relief

Llwyddodd yr ysgol i gasglu £161 tuag Comic Relief. Daeth y disgyblion ag arian i mewn i wisgo dillad eu hunain, a cafwyd ‘bake off’ gyda pob dosbarth yn cystadlu i wneud y gacen orau. Da iawn i dosbarth Canol am ddod yn llwyddiannus.


masnach degMasnach Deg

Cawsom wasanaeth masnach Deg gan Lis Perkins yn ystod pythefnos Masnach deg mis Mawrth. Yn ogystal daeth Lis a siop bach i mewn gyda danteithio a chrefftau i’r disgyblion gael eu prynu.

STAFF CAYBStaff CAYB yn Cefnogi Diwrnod Awtistiaieth Cenedlaethol


Ysgol Masnach Deg

ysgol masnach degLlongyfarchiadau i'r ysgol am lwyddo I gadw eu statws 'Ysgol Masnach Deg'. mae'r ysgol wedi llwyddo I wneud hyn drwy gynnal gwahanol wasanaethau Masnach Deg, defnyddio nwyddau Masnach Deg yn y gwersi coginio, defnyddio adnoddau Masnach Deg I ddysgu am ddaearyddiaeth a sut I fod yn gyfartal. Diolch I Lis Perkins sydd bellach yn ffrind i'r ysgol ac am ddod gyda'i siop bob tymor I werthu nwyddau a danteithion Masnach Deg.


Dydd Gwyl Ddewi

pupilsBuodd y disgyblion yr ysgol yn dathlu Dydd Gwyl Ddewi drwy gymryd rhan mewn gwasanaeth yn yr ysgol. roeddynt hefyd wedi bod yn creu crefftau cymreig a choginio melysion. roedd pawb wedi gwneud ymdrech I wisgo eu dillad coch


Gymnasteg

pupilsAr ddydd Llun 13 Chwefror Cymerodd disgyblion rhan mewn cystadleuaeth gymnasteg. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn flynyddol ac yn cael ei redeg gan Gymdeithas Gymnasteg Cymru a Tîm Anabledd Chwaraeon Cymru.

Roedd y disgyblion wedi mwynhau cystadlu yn 3 gweithgaredd - Llawr, Folt a Mainc. Roedd disgyblion yn cystadlu yn erbyn disgyblion Ysgol Pendalar, Gogarth, Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol y Graig. Roedd 13 o’r ddisgyblion yn llwyddiannus yn eu categorïau, byddant yn awr yn cystadlu yn y Bala, lle byddant yn cynrychioli eu rhanbarth yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol.


Twrnament Bowlio Deg

pupilsBu criw Canol draw ym Mrhestatyn er mwyn cynrychioli’r ysgol mewn cystadleuaeth bowlio deg. Da iawn i Lowri a Ioan am gael strike!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Teithio

pupilsFel rhan o’n thema teithio mae Canol wedi bod yn edrych ar wahanol fathau o drafnidiaeth, yn ddiweddar cawsom fynd ar ymweliad ar gwch ‘adventurer’ Stena yn Gaergybi. Roedd y disgyblion wrth eu bodd yn cael cyfarfod a gweld gwaith captain John.

pupilsMae Cynradd 4 wedi bod yn canolbwyntio ar y ffyrdd gwahanol o deithio ar y tir ac yn y môr. Aethom ni i’r ganolfan RNLI yn Moelfre i weld sut fath o waith maent yn ei wneud i helpu eraill, a sut maent yn teithio.


Diogelwch y Ffordd

pupilsYn ystod yr wythnosau diwethaf mae dosbarth Canol wedi bod yn dysgu am reolau croesi’r ffordd gyda Ceri Williams o’r Cyngor Sir. Mae’n siwr bod rhai wedi ein gweld yn cerdded ar y ffordd ar fore Gwener yn ein cotiau melyn llachar. Diolch yn fawr iawn i Ceri am y sesiynnau, mae pawb wedi mwynhau yn fawr.


Blwyddyn Newydd Tseiniaidd

disgyblionBu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn dathlu blwyddyn newydd y tseiniaid y flwyddyn yma. cawsant hwyl yn gwneud gwaith celf o bob math, roedd rhai dosbarthiadau yn gwneud bwydydd tseiniaidd yn yn gwersi coginio.

Cafodd dosbarth Cynradd 5 a Cynradd 3 fod yn rhan o orymdaith oamgylch yr ysgol gyda draig fawr tseiniaidd a drymiau, roedd y dosbarthiadau eraill I gyd wrth ei boddau yn cael dod allan o'r dosbarthiadau i'w gweld.

Roedd y ddau ddosbarth hefyd yn lwcus iawn I gael blasu bwyd tseiniaidd. diolch yn fawr iawn I Hoo Chung, Llangefni am gyfranu yr holl fwyd, roedd yn flasus dros ben.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Siop Elusen

Yn dilyn llwyddiant y siop elusen y flwyddyn ddiwethaf, mi fydd dosbarth Ceint 3 yn rhedeg y siop eto eleni yng Nghaergybi. Mae’r fenter yn caniatáu i’r disgyblion ennill profiad gwerthfawr ac ar yr un pryd yn casglu arian i’r ysgol. Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad megis esgidiau, llyfrau, dillad, gemau, teganau neu lestri. Bydd y siop ar agor yn ystod Mis Mawrth.


Ysgol Arweiniol creadigol

disgyblionYn dilyn cael ein dewis fel Ysgol Arweiniol Creadigol y llynedd, mae’r prosiect yn awr wedi cychwyn. Cafwyd diwrnod cyntaf prysur llawn cyffro gyda’r actores Rhian Cadwaladr a Tom Cockbill o Wild Elements. Themâu'r prosiect yw teithio ac yn ystod y tymor nesaf bydd y disgyblion yn cael profi nifer o wahanol weithgareddau yn cynnwys darllen a gwrando ar storiâu, sesiynau dod i adnabod, gwaith celf a chrefft ac adeiladu. Byddent yn gweithio tuag at greu ardal weithio y tu allan yn yr ardd wyllt hefyd. Mae’r staff a’r disgyblion yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y prosiect a chael cydweithio gydag asiantaethau allanol. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd.


Cyngor ysgol

disgyblionMae’r cyfarfod cyntaf wedi ei gynnal gydag aelodau newydd y Cyngor ysgol. Bu’r disgyblion yn rhannu syniadau ac yn mynegi barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd yn yr ysgol yn ystod y tymor nesaf.


Tŷ Gobaith

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cyngerdd Nadolig, roedd Canolfan Addysg y Bont yn medru cyfrannu £650 i Dŷ Gobaith eleni. Fel cwmni cofrestredig mae’n ofynnol iddynt godi £6 miliwn y flwyddyn yma er mwyn gallu cefnogi’r plant a’r teuluoedd sydd mewn angen. Rydym yn falch iawn fel ysgol o fod wedi medru helpu.

Celf a Chrefft yr Urdd

disgyblionLlongyfarchiadau mawr i’r disgyblion ddaeth yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd, Rhanbarth Ynys Môn. Roedd pob darn o waith oedd wedi cael eu cyflwyno wedi bod yn llwyddiannus. Yn dilyn hynny roedd y mwyafrif o’r gwaith aeth drwodd i Eisteddfod Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiant hefyd. Cafwyd 6 - 1af, 3 - ail, a 2 - trydydd. Roedd Miss Fretwell yr athrawes gelf yn hynod falch o’r disgyblion i gyd, ac yn mwynhau gweld y talent creadigol yn cael ei amlygu ymhellach na waliau’r ysgol.


Beacon Center

Fel rhan o waith Dug Caeredin mae rhai o ddisgyblion uwchradd wedi cael cyfle i fynd I Ganolfan Beacon yng Nghaernarfon. Yma, mae’r disgyblion yn cael y cyfle i ddringo’r waliau a cael cyngor gwerthfawr gan yr arweinwyr. Maent wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio rhaffau yn ddiogel a sut i weithio fel tîm. Dywedodd eu hathro Gethin Thomas fod hi’n bleser gweld y plant yn mwynhau ac yn datblygu hyder o wythnos i wythnos.


Gweithdy Celf

disgyblionMae dosbarth Canol a Cynradd 5 wedi bod yn mynychu gweithdai celf yn Oriel Ynys Môn. Maent yn gweithio ar y cyd gyda’r arlunydd Manon Awst i ddatblygu eu sgiliau dylunio i greu darnau o waith creadigol yn seiliedig ar arddangosfa Kyffin Williams.


Llywelyn Ifan Jones

telynFel rhan o Brosiect ‘Live music Now’ cawsom ymweliad gan Llywelyn Ifan Jones, y telynor talentog. Bu’n cynnal gweithdy telyn gyda’r dosbarthiadau cynradd ac uwchradd. Cafodd y disgyblion gyfle i wrando ar Llywelyn yn chwarae gwahanol ddarnau, a chawsant gyfle i chwarae gwahanol fathau o delynau. Braf oedd cyfarfod Llywelyn a gwrando a rai storiâu o’r byd cerdd clasurol.


Wythnos Wyddoniaeth

disgyblionCafwyd wythnos llawn gweithgareddau gwyddonol yng Nghanolfan Addysg y Bont mis yma. Roedd y disgyblion ar draws yr ysgol wedi mwynhau y ‘carwsel gwyddoniaeth’ yn fawr iawn. Cawsant brofiadau amrywiol megis dysgu am y galon, arbrofi gyda gwahanol weadau megis cornflour a dwr, magnedau, bybls a llawer mwy. Roedd yn brofiad gwych cael mynd i mewn i ‘dôm’ y Starlab i edrych ar y sêr a’r planedau hefyd.


Masnach Deg

pobl a disgyblionFel rhan o ddathliadau pythefnos Masnach Deg 2016, aeth dosbarth Cynradd 5 ati i drefnu diwrnod i gefnogi’r digwyddiad. Bu’r dosbarth yn brysur yn ysgrifenu gwahoddiadau i bobl megis Rhun Ap Iorweth i ddod y ymuno a ni yn yr ysgol, yn ogystal phobl eraill adnabyddus. Roeddent wedi addurno caffi’r ysgol gyda posteri, gwneud cacenau masnach deg, cyflwyno gwasanaeth i weddill yr ysgol, a chreu crefftau gan ddefnyddio ffabrig masnach deg. Daeth ein ffrindiau o Ysgol Parc y Bont i gael diod a chacen gyda ni ac i gydweithio ar y crefftau. A cafodd yr ysgol i gyd gyfle i brynu rhywbeth o’r siop Masnach Deg oedd yn cael ei rhedeg gan Mrs Lis Perkins, sydd bellach yn ffrind da i’r ysgol. Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn rhan o’r diwrnod.


Gymnasteg

Llongyfarchiadau mawr iawn i’r holl ddisgyblion oedd wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Rhanbarthol y flwyddyn yma. Cafwyd diwrnod gwych yn yr ysgol, gyda disgyblion o ysgolion cynradd eraill yn ymuno i gystadlu, a’r buddugwyr yn cael mynd ymlaen i’r rownd nesaf yn Bala.


Pontio

Yn dilyn agoriad adeilad newydd Pontio ym Mangor, bu rhai o aelodau yr ysgol yn lwcus iawn i gael bod yn rhan o berfformiad ‘Mae na Le’ ar y cŷd gyda NoFit State circus. Roedd yr awyrgylch yn Pontio yn ystod y perfformiad yn anhygoel ac yn llawn cyffro. Ymunodd pobl ifanc o Ysgol Glanadda, Glancegin, Hirael a'r Friars gyda Canolfan Addysg y Bont i gymryd rhan mewn sioe a oedd yn ymwneud â adloniant ac arswyd. Profiad gwych i’n disgyblion gael ymwneud gyda perfformwyr o’r fath safon. Cliciwch yma i ddarllen adolygiad.


Wythnos Gyrfaoedd – Siop Elusen

posterBu dosbarth Ceint 3 yn hynod o brysur wythnos diwethaf yn siop elusen yr ysgol yng Nghaergybi. Roedd yn gyfle gwych i’r disgyblion gael profiad o weithio mewn siop, datblygu sgiliau cyfathrebu a thrin arian. Llwyddodd y criw gasglu £511 yn y siop, da iawn chi! Hoffai’r disgyblion a staff ddiolch i bawb am gefnogi.


Wyau Pasg

posterDiolch yn fawr iawn i Anglesey Motorcycle club a Novus Solution, Llandegai am gyfrannu wyau pasg i bob disgybl yng Nghanolfan Addysg y Bont. Roedd y disgyblion i gyd yn ddiolchgar iawn ac wrth eu bodd.


Dathu Dydd Gŵyl Dewi gyda Canolfan Addysg y Bont

logosMae amryw o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda'r crochenydd John Fairbairn i greu broch daffodil deniadol iawn.

Diolch i Siop Cain yn Llangefni,(www.cainonline.co.uk) Beaumaris Jewellery Studio (www.beaumarisjewellery.com) and 'Ena's newsagent ' yn Biwmares am werthu ar ein rhan.



Bywyd Gwyllt

posterMae dosbarth Ceint 3 yn gweithio ar brosiect yn ymwneud a bywyd gwyllt yn y gymuned fel rhan o’u gwaith OCN. Maen’t wedi bod yn ymweld a Tyddyn Mon am syniadau a chael cyfle i blannu blodau a gwneud pot blodau allan o glai. Mae Jewsons wedi bod yn hael iawn drwy gyfranu deunyddiau fydd yn caniatau i ni adeiladu tai adar allan o bren, diolch yn fawr iawn iddynt. A hefyd i diolch yn i Farm & Pet, Llangefni am yr hadau adar.
Bydd Canolfan Addysg Y Bont yn siwr o fod yn gartref diogel i niferoedd o anifeiliaid gwyllt Llangefni.


Siop Elusen

Bydd yr ysgol yn rhedeg siop elusen yng Nghaergybi o’r 7fed o Fawrth ymlaen. Galwch draw am fargen i’r siop yn ganol y dref.


Diolch

posterDiolch yn fawr i Mrs Ann Jones, nain Thomas Martland am ei rhodd caredig i’r ysgol er cof am ei gwr.


Canolfan ailgylchu Penhesgyn

posterFel rhan o'u gwaith ar ddatblygiad chynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, cafodd dosbarth cynradd 5 ymweld a chanolfan ailgylchu Penhesgyn, ger Porthaethwy.

Roedd yn brofiad gwych i'r disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth am ailgylchu, a dysgu ffeithiau bach diddorol am sut mae posib defnyddio'r eitemau ar ol cael eu prosesu. e.e mae digon o aur mewn 50 ffon symudol I wneud modrwy priodas! a gellir gwneud siwmper ysgol gyda 50 o boteli plastig wedi'w hailgylchu!

Derbynnodd y disgyblion Y Llyfr Celf a Chrefft Gynaliadwy hefyd, sydd yn llawn syniadau am sut I greu crefftau gan ail-ddefnyddio eitemau yn y cartref ac arbed arian yr un pryd.

Diolch yn fawr iawn I staff y ganolfan am eu hamser!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn

posterMae gwaith disgyblion yr ysgol yn cael ei arddangos yn Oriel Ynys Môn hyd at fis Mehefin. Galwch draw i weld gwaith lliwgar gan amrywiaeth o ddosbarthiadau, sy’n cynwys collage, paentiadau, crochenwaith a mwy.


Ser Bach

posterRoedd rhai o ddisgyblion CAYB yn lwcus iawn i fynd i ymweld a Meithrinfa Ser Bach, Llangefni. Cafwyd croeso cynes iawn gan Mrs Cheryl Thomas, cyn athrawes o’r ysgol. Braf gweld fod ei menter newydd yn llwyddiant.


Ysgol Parc Y Bont

posterCawsom ymweliad gan disgyblion a staff Ysgol Parc Y Bont, Llanddaniel. Bydd yr ysgol yn dod i ymweld a’m hysgol unwaith y mis i gydweithio gyda ni. Bydd yn gyfle gwych i’r ddwy ysgol ddatblygu perthynas ac i‘r disgyblion wneud ffrindiau newydd.


Pili Palas

Mae disgyblion Canol a rhai ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Llangefni yn uno gyda’u gilydd i weithio ar brosiect celf. Dros y misoedd nesaf mae’r ddwy ysgol yn rhannu syniadau, ymweld a’u gilydd a chyd-weithio i greu darn o waith celf fydd yn cael ei arddangos yn y ddwy ysgol. Buodd y grwp ar ymweliad i Pili Palas i gael cyfle i luniadu o’r byw fel cychwyn ar y proseict. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr, ac mae disgyblion Y Bont yn awyddus iawn i gael gweithio gyda’u ffrindiau newydd eto a chael ymweld a’r Ysgol Gyfun.


Diolch

Hoffwn fel cymuned ddiolch i deuluoedd Williams Thomas Jones (Gaerwen) ac Anita May Jones (Llangefni) am y rhodd caredig i’r ysgol yn ddiweddar yn dilyn cysylltiadau cynhebrwng.

Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn

posterMae gwaith disgyblion yr ysgol yn cael ei arddangos yn Oriel Ynys Môn hyd at fis Mehefin. Galwch draw i weld gwaith lliwgar gan amrywiaeth o ddosbarthiadau, sy’n cynwys collage, paentiadau, crochenwaith a mwy.


Ser Bach

posterRoedd rhai o ddisgyblion CAYB yn lwcus iawn i fynd i ymweld a Meithrinfa Ser Bach, Llangefni. Cafwyd croeso cynes iawn gan Mrs Cheryl Thomas, cyn athrawes o’r ysgol. Braf gweld fod ei menter newydd yn llwyddiant.


Ysgol Parc Y Bont

posterCawsom ymweliad gan disgyblion a staff Ysgol Parc Y Bont, Llanddaniel. Bydd yr ysgol yn dod i ymweld a’m hysgol unwaith y mis i gydweithio gyda ni. Bydd yn gyfle gwych i’r ddwy ysgol ddatblygu perthynas ac i‘r disgyblion wneud ffrindiau newydd.


Pili Palas

Mae disgyblion Canol a rhai ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Llangefni yn uno gyda’u gilydd i weithio ar brosiect celf. Dros y misoedd nesaf mae’r ddwy ysgol yn rhannu syniadau, ymweld a’u gilydd a chyd-weithio i greu darn o waith celf fydd yn cael ei arddangos yn y ddwy ysgol. Buodd y grwp ar ymweliad i Pili Palas i gael cyfle i luniadu o’r byw fel cychwyn ar y proseict. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr, ac mae disgyblion Y Bont yn awyddus iawn i gael gweithio gyda’u ffrindiau newydd eto a chael ymweld a’r Ysgol Gyfun.


Diolch

Hoffwn fel cymuned ddiolch i deuluoedd Williams Thomas Jones (Gaerwen) ac Anita May Jones (Llangefni) am y rhodd caredig i’r ysgol yn ddiweddar yn dilyn cysylltiadau cynhebrwng.


Sioe Nadolig

Cawsom sioe Nadolig lwyddiannus iawn eto yn Nghanolfan Addysg Y Bont. Roedd perfformiad y disgyblion yn werth chweil, gyda dros 500 o bobl yn dod i wylio yn ystod y ddau berfformiad. Hefyd roedd ffair greffau liwgar yn llawr danteithion a chrefftau deniadol. Diolch i’r holl staff am eu gwaith caled ac i bawb am gefnogi.


Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn

posterBydd arddangosfa o waith celf disgyblion CAYB yn cael ei arddangos yn Oriel Ynys Môn, Llangefni o fis Ionawr hyd ar fis Mehefin 2016. Mae amrywiaeth o waith gan ddisgyblion ar draws yr ysgol yn cynwys crochenwaith, darluniau, paentiadau a chollage.

 


Masnach Deg

Lis efo plentyn a nwyddauDiolch yn fawr iawn I Lis Perkins am ei hymweliad yn ystod y mis. Death Lis I mewn I wneud gwasanaeth Masnach Deg gan gyflwyno pel droed I’r ysgol am lwyddo I dderbyn statws Masnach Deg. Cafodd y disgyblion I gyd gyfle i siopa yn stondin Masnach Deg hefyd.


Rhodd Piano

Daeth Nadolig yn gynnar I ddysgyblion Canolfan Addysg y Bont wythnos diwethaf pan rhoddwyd piano drydanol am ddim ir ysgol. Cysylltodd Steve a Jacqui Monaghan a’r ysgol yn cynnig piano digidol KORG I’r adran gerdd. Mi fydd y biano yn cael ei gosod yn yr adran 14-19 ac mi fydd yn gyfle I ddisgyblion ac athrawon ei defnyddio. Diolch yn fawr iawn I Steve a Jaqui.


Waitrose

3 women and 3 childrenOs ydych yn galw heibio Waitrose, Porthaethwy dros y Nadolig. Cymerwch gip-olwg yn y caffi i edmygu gwaith celf rhywfaint o’n disgyblion. Mae’r gwersi celf yn fwrlwm o brysurdeb a lliw drwy’r flwyddyn, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Waitrose am y cyfle i arddangos rhywfaint o’r campwaith.


Ymweliad Cwmni Clen

3 person a 3 plentynBuodd Canolfan Addysg y Bont yn lwcus iawn i gael ymweliad gan ferched Cwmni Clen rhai wythnosau yn ol. Mae Cwmni Clen yn gwmni newydd sy’n arbennigo mewn gweithdai Makaton i bobl ifanc ac i oediolion. Cafodd disbyblion CAYB gyfle i ddangos eu doniau drwy ganu tair can iddynt. Roedd y plant wrth ei boddau yn dangos ei sgiliau Makaton i Cwmni Da.


Bocsys Nadolig

plantMae dosbarthiadau Cynradd 5 a Canol wedi bod yn brysur yn prynu nwyddau a pharatoi bocsys o anrhegion Nadolig i’w gyrru i blant bregus yn Romania. Aethpwyd a’r bocsys i Ysgol Gyfun Llangefni, ble roedd y bocsys yn cael eu casglu gan Teams4U, sy’n cefnogi cymunedau ar draws y byd.


Plant Mewn Angen

plant a phoblMae dosbarth Canol wedi bod yn brysur yn trefnu gweithgareddau i Plant Mewn Angen. Cawsom ddiwrnod gwych a chodwyd £402.37 trwy werthu cacennau, breichledau, paentio wyneb ac gwisgo dillad eu hunain neu wisg ffansi. Cymerodd staff ran drwy gael diwrnod gwallt gwallgo. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth


Gwyddoniaeth

Fel rhan o waith ymchwil Gwyddoniaeth Cynradd 5 cafwyd ymweliad buddiol a chroesawgar iawn yn Fferam y Llan, Llangristiolus. Buodd y disgyblion yn brysur iawn yn sgwrsio gyda'r ffarmwr i ddarganfod ble roedd llaeth yn dod o ag beth roedd yn digwydd iddo wedi gadael y fferm. Pleser mawr oedd cael gweld y gwartheg yn cael eu godro a bwydo'r lloeau bach. Diolch yn fawr am y croeso.


Cerdd

Gwaith Cerdd CAYB gyda'r pbone yn cael sylw mewn erthygl (Erthygl Saesneg yn unig): cliciwch yma


Tymor Prysur

Hanner tymor cyntaf wedi hedfan heibio. Hoffem estyn croeso i ddisgyblion newydd yr ysgol, mae pawb erbyn hyn wedi cynefino yn eu dosbarthiadau newydd.
Dymunwn ddiolch i bawb oedd yn ymwneud a chasglu arian i’r ysgol; staff, rhieni ac aelodau o’r gymuned. Mae’r arian wedi ei wario ar offer chwarae y tu allan i’r ysgol gyda’r disgyblion wrth eu boddau yn cael eu defnyddio bob amser egwyl.


Cyngor Ysgol

GryffaloMae aelodau newydd Cyngor ysgol wedi eu dewis, gyda disgyblion awyddus yn llawn barn a syniadau am y flwyddyn i ddod.


Macmillan

GryffaloAr y 6ed o Hydref bu dosbarth Ceint 3 yn brysur iawn yn gwneud cacennau ar gyfer bore Macmillan. Cafodd pob dosbarth gyfle i ddod i gaffi’r ysgol i brynu cacen, roeddynt yn flasus dros ben. Roedd yn fore llwyddiannus iawn gyda £136 wedi ei gasglu at yr achos.


Bocswn

Buodd criw o Ganolfan addysg y bont yn recordio gyda Hogia Bocswn yn ddiweddar. Sgwennwyd can bop gyda'u hathro Gethin Thomas a bellach maer sengl bron yn barod i’w ryddhau. Cafwyd perfformiad yn yr ysgol gyda band llawn cerddorion profiadol. Bu'r criw yn lwcus iawn i gael Wyn Pearson yn chwarae gitâr ar y trac sydd wedi perfformio gyda Dafydd Iwan, Catherine Jenkins ac Alfie Boe. Y gobaith yw bydd y sengl yn cael ei rhyddhau yn y misoedd nesaf.


Gŵyl Goedwig

BBC's main trumpeter Andy Everton came to visit. Andy was playing at a concert with the orchestra in Llandudno and decided to call in at the school to work with children and music teacher Mr Gethin Thomas. Children had the opportunity to play their trombones with Andy and compose classical music.


Diolchgarwch

Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch yn yr ysgol gyda’r disgyblion yn cael cyfle i ddweud beth oeddynt yn ddiolchgar amdano. Roedd nifer o’r disgyblion wedi dod a thuniau bwyd i mewn i’w rhoi i Pantri Pobl Anglesey Food Bank yn Llangefni. Hoffwn ddiolch i’r Parchedig Hywel Davies am alw mewn i’n gweld.

Trombonau

Cafwyd ymweliad gan brif drwmpedwr y BBC sef Andy Everton ar ddechrau’r tymor. Roedd Andy yn chwarae mewn cyngerdd gyda’r gerddorfa yn Llandudno ac mi benderfynodd alw mewn yn yr ysgol i weithio gyda’r plant a’r athro cerdd Mr Gethin Thomas. Bu y plant yn chwarae eu trombonau gyda Andy ac yn cyfansoddi cerddoriaeth glasurol.


Benyounes Quartet

Cafwyd ymweliad hefyd gan y Benyounes Quartet. Pedwarawd llinynnol llwyddiannus iawn yw Benyounes o Lundain. Cafodd y plant bleser o wrando a bod yn rhan o weithdy gyda’r pedwarawd.


Buddsoddwyr Mewn Pobl

Mae Canolfan Addysg Y Bont yn falch iawn o fod wedi ennill safon arian Buddsoddwr Mewn Pobl yn ddiweddar, yn dilyn asesiad allanol. Mae'n braf iawn i gael arbenigedd allanol i gadarnhau fel sefydliad, fod cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a gwerthoedd craidd yn cael eu rhannu. Rhaid i ni gofio bob amser mai ein staff yw adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym.


Samba!

Mae tymor yr haf yn un prysur iawn i’r adran gerdd. Rydym wrthi'n paratoi ein band Samba I berfformio ar sgwâr Llangefni yn ystod wythnos Gŵyl cefni. Hefyd mae ein Band pres yn perfformio un o ddarnau Grieg mewn cyngerdd yn yr ysgol ar y cyd a Menter Môn.


Gryffalo

GryffaloFel rhan o thema’r tymor ‘Chwarae’, mae Cynradd 1 wedi bod yn brysur yn creu mygydau Gryffalo ar ôl clywed y stori yn y cwtsh yn y dosbarth. Ar ôl creu eu mygydau, aethant ati wedyn i addurno Gryffalo mawr a llygoden fach i'r wal.


Sioe Joseff

Mae Ceint 3 wedi bod yn hynod o brysur dros yr wythnosau diwethaf yn gwneud brechdanau bacwn a selsig i werthu i’r staff. Gyda’r elw aeth y criw draw i Venue Cymru, Llandudno i weld y sioe Joseff, roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.


Diwrnod Trwyn Coch

Diwrnod Trwynau CochAr Ddydd Gwener 13 Mawrth bu pawb yn yr ysgol yn brysur yn casglu arian i achos da, roedd stondin o gacennau blasus ar werth, disgyblion wedi gwisgo eu dillad eu hunain, a’r staff yn dyfalu ar gêm pwy yw’r babi. Diwrnod prysur iawn gyda phawb wedi mwynhau cyfrannu tuag at achos da.


Cystadleuaeth Gymnasteg

GymnastegCynhaliwyd cystadleuaeth gymnasteg a redir gan Gymnasteg Cymru mewn partneriaeth â'r Rotari a Chwaraeon Anabledd Cymru yn yr ysgol. Daeth disgyblion o ysgolion eraill yr ynys i ymuno yn y cystadlu. Cafwyd llwyddiant ac aeth criw o ddisgyblion i Bala i gystadlu ymhellach. Roedd pawb wedi mwynhau a phawb wedi derbyn ruban neu fedal, da iawn i Kieran Owen a James Edwards am ennill tlws am ddod yn gyntaf yn eu cystadlaethau.

I weld mwy o'r lluniau ar Flickr, cliciwch yma.


Siop Elusen

Unwaith eto eleni roedd criw hŷn yr ysgol yn rhedeg siop elusen am wythnos yng Nghaergybi. Y siop unwaith eto wedi bod yn llwyddiant gyda’r disgyblion yn cael profiad o weithio a rhedeg siop. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r fenter hon.