English

Prosiectau

Tymor yr Haf 2018

Jon Eggins Trust

Diwrnod Trwynau CochMae Ceint 2 wedi bod yn gweithio gyda'r Jon Eggins Trust ar gynllun 'Team Building'. Cawsant gyfle i ymweld a'r Gampfa yn RAF Valley, bowlio 10 ac adeiladu den efo Wild Elements yng Nghastell Penrhyn. Roedd pawb wedi mwynhau y profiadau yn fawr.


Tymor y Gwanwyn 2018

Gardd Fotaneg Treborth

Diwrnod Trwynau CochMae Cynradd 3 yn cael y cyfle gwych i ymweld â Gardd Fotaneg Treborth, Bangor dair gwaith eleni.

Mae hwn yn brosiect sydd wedi’w ariannu er mwyn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu ac archwilio natur ar wahanol adegau o’r flwyddyn – gaeaf, gwanwyn a haf. Byddant yn mynd i archwilio’r gerddi; yn tynnu lluniau, dipio pyllau, gwylio adar a helfa trychfilod.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Gardd Fotaneg Treborth - Ymweliad 2

Diwrnod Trwynau CochMae Cynradd 3b wedi bod ar eu hail ymweliad i Ardd Fotaneg Treborth. Roeddynt yn hela trychfilod yn y goedwig ac yn pysgota yn y pyllau dwr, yn ogystal â gwylio adar. Y tro yma roeddynt yn cymharu canlyniadau'r hyn a ddarganfuwyd gyda'r ymweliad cyntaf. Sylwyd fod nifer mwy o drychfilod i'w darganfod yn y goedwig o ganlyniad i'r tywydd gynhesu.
Mae'r bechgyn wrth eu boddau yn archwilio natur ac yn edrych ymlaen ar y trydydd ymweliad yn yr haf.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


Tymor yr Haf 2017

Ysgol Arweiniol Creadigol 2017-2018

Yn dilyn ein prosiect Ysgol Arweiniol Creadigol 2017-2018, mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda Tom Cockbill o 'Wild Elements' I greu gardd 'Hafan y Bont'. Mae'r ardd yn awr yn ddosbarth y tu allan (outdoor classroom) ble mae mae modd ei ddefnyddio i wahanol agweddau o ddysgu. Mae'r disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu synhwyrau drwy archwilio natur, mwynd ar antur drwy'r coed, hela trychfilod, gwrando ar stori, gwersi celf a cherdd, yn ogystal a datblyg sgiliau rhifedd a lythrennedd.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Tymor y Gwanwyn 2017

Gweithy Kyffin Williams

Bu disgyblion Ceint 3 yn cymryd rhan mewn gweithdy celf yn Oriel Ynys Mon. Roedd y gweithdy yn cyd fynd ag arddangosfa newydd Kyffin Williams 'Darlun o Fon'

Prif bwrpas y gweithdy oedd I ymchwilio'r defnydd o lyfrau braslunio a dysgu pan ei fod yn ased mor ddefnyddiol a gwerthfawr i'r artist. cafodd y disgyblion gyfle I greu llyfrau braslunio unigryw eu hunain, yna dylunio ynddynt a

Dysgu am waith yr arlunydd mewn ffordd hwyliog ac ymlaciol. roedd y disgyblion wedi mwynhau yn fawr ac wedi cael cyfle I ddatblygu a lledu eu meddyliau ifanc.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Tymor yr Haf 2016

Prosiect Cyd-weithio Ysgol i Ysgol Celf

Diwrnod Trwynau CochMae disgyblion CA3 Canolfan Addysg Y Bont, a disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Llangefni wedi bod yn cyd-weithio ar brosiect celf cyffrous iawn yn ystod y misoedd diwethaf.

Cytunodd yr athrawon celf y byddai o fudd mawr i’r ddwy ysgol, i’r disgyblion ac i’r staff i greu linc/perthynas rhwng y ddwy ysgol. Byddai hyn yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion MAT bl.9 i gyd-weithio gyda disgyblion dosbarth Canol CAYB, a drwy wneud hyn, ddatblygu hunanhyder, datblygu sgiliau celf, sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.

Sail y prosiect oedd astudio gwaith yr arlunydd Marcia Baldwin, sy’n creu darluniau mawr lliwgar wedi ei sbarduno gan lonnod byw.

Cafwyd sesiwn cymdeithasol yn CAYB gyda disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yn dod i ymweld â’r ysgol am y tro cyntaf. Yn syth, roedd y disgyblion yn cyd-dynnu, yn sgwrsio a rhannu jôcs, yn cael hwyl a chyfnewid straeon. Aethant ati i gychwyn gweithio yn steil yr arlunydd.

Trefnwyd trip i Pili Palas, ble gafodd y disgyblion gyfle i luniadu o’r byw a thynnu lluniau camera er mwyn eu defnyddio yn ddiweddarach yn y prosiect.

Diwrnod Trwynau CochYn dilyn hynny mae’r disgyblion wedi bod yn ymweld ag ysgolion ei gilydd, mae disgyblion CAYB wrth eu boddau yn cael mynd i’r ysgol uwchradd, a disgyblion Gyfun wrth eu boddau yn cael dod i’r caffi yn CAYB am baned a bisgeden! Ond yn fwy na dim, mae’r cyd-weithio diymdrech sydd yn digwydd rhwng y disgyblion yn werth ei weld. Maent yn creu gwaith o safon anhygoel.

Aethant ati i ddargopïo ffotograffau, i greu siapiau bychan manwl, a darnau mawr haniaethol er mwyn creu cynlluniau terfynol i’w roi ar gyfres o sgrin sidan. Drwy ddefnyddio ‘gutta’ mae’r disgyblion wedi trosglwyddo’r cynlluniau ar y sgrin, ac ar ôl i hwnnw sychu, yn defnyddio paent arbennig i arllwys lliw i’r campwaith.

Bydd y darnau sidan yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu paneli mwy i’w harddangos yn y ddwy ysgol.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau